01/01/2026
🌟Yn y flwyddyn newydd byddwn yn Edrych am Diwtoriaid Cymraeg eu Hiaith 🌟
Ydych chi’n angerddol am gefnogi dysgwyr drwy gyfrwng y Gymraeg?
Mae Rhagori yn asiantaeth diwtora sy’n cefnogi dysgwyr Cymraeg eu hiaith ar Gyfnod Allweddol 3, TGAU a Safon Uwch, ac rydym yn edrych am diwtoriaid Cymraeg i gofrestru gyda ni.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan:
✅ Athrawon cymwys
✅ Myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig
✅ Graddedigion a gweithwyr proffesiynol gyda gwybodaeth bynciau gryf
✅ Unrhyw un â chymwysterau perthnasol ac awydd i helpu dysgwyr i lwyddo
📚 Amrywiaeth eang o bynciau TGAU a Safon Uwch ar gael.
Rydym yn cynnig:
✨ Cyfleoedd hyblyg ar-lein
✨Taliadau prydlon a trloyw
✨ Cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i addysg Gymraeg
👉 Diddordeb? Cofrestrwch drwy’r ddolen yn y sylwadau neu anfonwch neges atom i ddysgu mwy